Tydi fy Nuw Tydi dy hun

(Dedwyddwch yn nghymdeithas Duw)
Tydi, fy Nuw, tydi dy hun,
Yw gwraidd fy nghysur oll yn un;
  Meddyliau amdanat sy'n rhoi blas
  Ar ragluniaethau croesaf maes.

Pan gaffwyf wel'd dy ddwyfol wedd,
A phrofi blas dy ddwyfol hedd,
  'Rwy'n gwel'd gogoniant mwya'r byd
  Fel peth annheilwng o fy mryd.

'Rwy'n gweld y pethau hynny o'r bron
Sy 'nghudd erioed i'r ddaear hon
  Yn sylwedd, ac yn 'stôr ddi-drai
  Anfeidrol gyfoeth i barhau.

Yn ngweledigaeth nefoedd fry
'Rwy'n priśo pethau'n 'werthfawr sy;
  Pan yr agoro pyrth y nef,
  'Rwy'n canfod ei ogoniant Ef.

Wel, dyma'r unig fan, fy Nuw,
Dymunaf aros tra fwyf byw;
  Blaenffrwyth yw hyn o'r hyfryd wledd,
  Gaf ei mwynhau tu draw i'r bedd.

Ond boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
Ddirgelion dystaw nefol fyd;
  A'm pleser unig, ddydd a nos,
  Yn nyfnion wirioneddau'r groes.
sy'n rhoi blas :: ddyry flas
croesaf maes :: croesa' ma's
ddwyfol wedd :: nefol wledd

1771 William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Brockham (Jeremiah Clarke c.1673-1707)
Oswestry (<1835)

gwelir:
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  O boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
  Pan caffwyf wel'd y nefol wledd
  Yn Peniel 'rwyt fy enaid clyw

(Happiness in the fellowship of God)
Thou, my God, thou thyself,
Art the root of my comfort all in one;
  Thoughts about thee give a taste
  Of the most welcome providences of all.

When I get to see thy divine face,
And experience a taste of thy divine peace,
  I see the greatest glory of the world
  As something unworthy of my attention.

I see these things almost
Which are ever hidden from this earth
  As substance, and as an unending store
  Of immeasurable wealth to last.

In the heavenly vision above
I value things which are of great worth;
  When the portals of heaven open,
  I will discern His glory.

See, here is the only place, my God,
I ask to stay while I live;
  A foretaste is this of the delightful feast,
  I will get to enjoy it beyond the grave.

But let my ears be always listening to
The quiet secrets of a heavenly world;
  And my only pleasure, day and night
  In the deep truths of the cross.
give a taste :: bring a taste
::
divine face :: heavenly feast

tr. 2010 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~